Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 21 Mawrth 2017
Amser: 09.00 -
10.44
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3947
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mike Hedges AC (Cadeirydd) Gareth Bennett AC Angela Burns AC Neil McEvoy AC |
Tystion: |
Simon Cursio, First Cymru Joe Graham, Great Western Railway Margaret Hickish MBE, Network Rail Barry Lloyd, Trenau Arriva Cymru Geraint Morgan, Trenau Arriva Cymru Cynthia Ogbonna, Cardiff Bus John Pockett, Confederation of Passenger Transport |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Kayleigh Driscoll (Dirprwy Glerc) Kath Thomas (Dirprwy Glerc) Sam Mason (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 561KB) Gweld fel HTML (221KB)
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Roedd Angela Burns yn dirprwyo ar ran Janet Finch-Saunders.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros am ganlyniad cyfarfod y deisebydd â swyddogion Llywodraeth Cymru cyn ystyried sut i symud y ddeiseb yn ei blaen.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros am sylwadau'r deisebydd i ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith cyn ystyried sut i symud y ddeiseb yn ei blaen.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros am sylwadau'r deisebydd i ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig cyn ystyried sut i symud y ddeiseb yn ei blaen.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb ac, o ystyried bod y deisebydd yn fodlon ar yr ymrwymiadau a wnaed o ran darparu gwasanaethau, cytunodd i gau'r ddeiseb. Roedd yr Aelodau hefyd am longyfarch y deisebwyr am ganlyniad llwyddiannus eu deiseb.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb ac, o ystyried bod prif nod y ddeiseb yn cael ei diwallu bellach, cytunodd i gau'r ddeiseb. Wrth wneud hynny, roedd yr Aelodau am ddiolch i'r deisebwyr am eu hymgysylltiad â'r broses ddeisebu.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am sylwadau'r deisebydd i ymateb i'r ohebiaeth a gafwyd gan Lywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr cyn ystyried sut fyddai orau i symud y ddeiseb yn ei blaen.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb, a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ofyn a gymerwyd unrhyw gamau pellach o ran y mater hwn er mwyn ymateb i'r wybodaeth a gafwyd gan awdurdodau lleol, ers yr ohebiaeth ddiwethaf rhwng y Pwyllgor a'i rhagflaenydd ym mis Chwefror 2016.
Datganodd Mike Hedges y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae ei chwaer yn fyddar iawn, ac mae ef wedi bod yn ymwneud â'r deisebwyr ond nid yw wedi ymwneud â'r ddeiseb benodol hon.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r deisebwyr, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i roi tystiolaeth yn un o gyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i gau’r ddeiseb gan fod pwnc gwreiddiol y ddeiseb fel y'i cyflwynwyd, sef lefel sybsidiaredd 2017/18, wedi cael ei sortio.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gysylltu â'r deisebydd i ofyn a oes ganddo unrhyw sylwadau apellach ynghylch y wybopdaeth a gafwyd gan Lywodraeth Cymru.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch canlyniad trafodaethau'r deisebwyr â swyddogion Llywodraeth Cymru.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd ar y camau a ganlyn:
· aros am ymateb gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn nodi a ydynt yn bwriadu cynnal unrhyw waith pellach ar y mater hwn, cyn penderfynu sut i symud y ddeiseb yn ei blaen; a
· gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant pryd y mae'n bwriadu gwneud datganiad ar y mater.
Atebodd y tystion gwestiynau gan y Pwyllgor.